Ymateb nodweddiadol ddaeth gan Rishi Sunak i fethiant y nyrs-lofrudd Lucy Letby i ymddangos yn y llys adeg ei dedfrydu, sef bod angen ei gorfodi i fod yn y doc. Ymateb difeddwl oedd yn ymddangos yn boblogaidd.

Nodweddiadol hefyd oedd ymateb yr arweinydd Llafur, Keir Starmer: dweud yr un peth â Rishi a’i feirniadu am beidio â gweithredu’n gynt.