Fe fydd yn rhaid i’r staff a gwirfoddolwyr weithio’n galed i ddenu pobol y Cymoedd i Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, yn ôl Helen Prosser, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.
Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, ac yn credu fod ymweliad y Brifwyl â Phontypridd yn gyfle i genhadu a denu siaradwyr newydd.