Cristiano Ronaldo, Jordan Henderson, Robert Firmino, Alex Telles, Rúben Neves, Steven Gerrard. Beth sydd gan y rhain i gyd yn gyffredin? Yr ateb ydi eu bod nhw oll bellach yn chwarae pêl-droed, neu’n rheoli tîm yn achos Gerrard, yn Sawdi Arabia. Gall y ffordd y mae pêl-droed fodern weithredu fod yn eithaf annifyr, ond dwi’n arbennig o anghyfforddus efo’r mudo sy’n digwydd mewn i gynghrair y wlad honno’r dyddiau hyn. Mae’n drewi.