Mae’n debyg fod y rhan fwyaf o ddarllenwyr Golwg yn ymwybodol o Feibion Gyndŵr. Mae’n rhan o’n ymwybyddiaeth genedlaethol ni rhywsut. O achos hynny neu efallai gan i mi wylio Bryn Fôn: Chwilio am Feibion Glyndŵr ar S4C gwta ddwy flynedd yn ôl, doedd dim llawer o ddim byd newydd i mi yn nogfen dwy ran ddiweddar BBC Wales, Firebombers.