Wedi methu ymweld â’r Maes eleni oherwydd gwaeledd, rwy’n ddibynnol ar S4C am arlwy’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n braf medru mwynhau’r cystadlu o’r cartref.

Ond gyda’r newidiadau newydd eleni, y ddau bafiliwn diangen, mae canfod y cystadlaethau dwi am eu gweld yn anodd tu hwnt.

Sylwais fod ‘sedd yn y pafiliwn’ ar gael trwy iPlayer, ond sedd yn y ‘Pafiliwn Mawr’ yw honno, ac felly siawns bod mwy o orfodaeth ar i S4C ganolbwyntio ar y ‘Pafiliwn Bach’.