Roedd yna gemau hir iawn yng Nghynghrair Bêl-droed Lloegr y penwythnos diwethaf. Dim ond oriau cyn dechrau’r tymor, roedd y Bwrdd Pêl-droed Rhyngwladol wedi cadarnhau bod dyfarnwyr am fod yn caniatáu llawer mwy o amser wedi ei ychwanegu eleni. Gyda bob tîm yn defnyddio tactegau diflas gwastraffu amser y dyddiau yma, mae’r awdurdodau yn awyddus i gyflymu’r gêm. Ar gyfartaledd, dim ond am 50 i 55 o funudau mae’r bêl ar y cae yn ystod awr a hanner o gêm. Rydw i’n cytuno yn gryf iawn gyda bwriad y B