Yn yr hen ddyddiau roedd yna silly-season braf dros yr haf. Cyfnod lle nad oedd llawer yn digwydd – a dim byd oll ar y newyddion heblaw am Wimbledon a’r Brifwyl.

Nid felly yn 2023.

Ble i ddechrau, a dweud y gwir, o ran straeon gwleidyddol cymhleth yr hen fyd yma?

Beth am Trump?

Bu’r gwleidydd annwyl gerbron ei well, unwaith eto, mewn llys yn Washington DC. Mae’n wynebu pedwar cyhuddiad newydd, oll yn deillio o Etholiad 2020 a’i ddadl ar y pryd (ac ers hynny) nad oedd wedi colli.