Ro’n i hanner ffordd trwy gastio darn enfawr o lês filet ar fy machyn crochet pan groesodd gwestiwn fy meddwl. Wrth edrych i fy chwith, a gweld carthen binc ar ei hanner ar fachyn arall, ac o ‘mlaen at yr hanner fest fair isle yn ei fag gweu, dyma’r cwestiwn yn blaguro’n boenus o araf: ydw i’n osgoi rhywbeth?