Gan fod y gwyliau ysgol wedi cyrraedd dw i wedi bod yn ymchwilio i bethau gall fy mhlant eu gwneud yn ystod yr haf. Mae fy merch hynaf (sy’n bump oed) yn dwli ar chwaraeon a dw i wedi bod yn ei holi pa gampau fysa hi’n hoffi trio.

Mae plant yn dysgu llawer wrth gymryd rhan mewn chwaraeon – gwaith tîm mewn pêl-droed; gwydnwch mewn tennis; dewrder mewn rygbi; sgiliau bywyd gyda nofio; dygnwch a dyfalbarhad efo athletau, ac ati.