‘Ydi pobl dal ofn mynd allan ers Cofid?’ Dyna beth oedd Rhys Mwyn yn gofyn yn ei golofn (Golwg 27/07/23). Wel, dw i’n meddwl ei fod o wedi gwir daro’r hoelen ar ei phen ac os nad ydym yn ofalus mi fydd effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg. Cymaint fel mi fydd pethau’n mynd i lawr mor gyflym na fydd hi’n bosib i ni droi pethau’n ôl. Mae’r iaith yn dal yn fyw heddiw o achos y capeli, yr eglwysi a’r cymdeithasau Cymraeg, ond mae llawer yn diflannu. Prin iawn yw’r cymdeithasau newyd