Wedi wythnos gymysg i dimau Cymru yn Ewrop, Iolo Cheung sy’n trafod beth aeth yn iawn a beth aeth o’i le…

“Roedd hi’n edrych yn reit ddu ar glybiau Cymru” yn Ewrop cyn i Hwlffordd drechu KF Shkendija yng Nghyngres Ewropa i sicrhau eu lle yn yr ail rownd.

Dyna asesiad un o sylwebyddion Sgorio, Iolo Cheung.

Cyn llwyddiant tîm Tony Pennock yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau ddiwethaf, colli oedd hanes pob un o glybiau Cymru yng Nghystadlaethau Ewrop.