Ysgrifennaf i dynnu sylw eich darllenwyr at ddiffyg cystadlaethau offerynnol gwerin yn Eisteddfod Boduan.

Yn y gorffennol, cynhaliwyd dwy gystadleuaeth yn y Tŷ Gwerin – y naill i unawdwyr (Cystadleuaeth Tlws Coffa y gwneuthurwr telynau John Weston Thomas) a’r llall i grŵp. Ac, wrth gwrs, roedd beirniad o’r maes gwerin yn beirniadu.

Gwn fod rhai o offerynwyr y llynedd wedi edrych ymlaen at gystadlu eto eleni ond, er mawr siom iddynt, diddymwyd y ddwy gystadleuaeth erbyn hyn.