Cyn ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol ag ardal benodol, bydd y brodorion yn codi arwyddion a baneri hyd y lle yn croesawu’r brifwyl a’i hymwelwyr i’w bro.

Ond mae papur bro lleol wedi mynd un cam ymhellach ar gyfer Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.

Mae rhifyn arbennig o Y Ffynnon, sy’n llawn colofnau, erthyglau, posau a lluniau gwreiddiol, yn ychwanegol at eu rhifyn arferol fis Awst sydd allan ers 20 Gorffennaf.