Heb fod yn un ddilynodd stori Huw Edwards, na Phillip Schofield gynt, dwi ddim am bregethu ar yr achosion hyn yn uniongyrchol. Fodd bynnag, mae’r ddau wedi dangos pa mor fwdlyd yw’r dyfroedd efo ambell beth fel ein bod ni fel cymdeithas ddim yn siŵr sut i drin pobl ifanc sydd ar drothwy dod yn oedolion.