Mae yna gwpwl o ddigwyddiadau yn yr wythnos neu ddwy ddiwetha’ wedi dangos eto fod yna ryw anaeddfedrwydd dwfn yn nhrefn wleidyddol gwledydd Prydain.

Newid ffiniau etholaethau seneddol ydi un a gweithredoedd disgyblu diweddara’r Blaid Lafur ydi’r llall. Yn y ddau achos, mae rheolau’n rhemp a’r arwynebol yn cyfri’ mwy na dim arall.