Beth mae’r pythefnos diwethaf wedi dysgu fi? Wel, o ganlyniad i fod mewn solidariaeth gyda Sage Todz a pheidio perfformio ar lwyfan y Pafiliwn yn y Steddfod flwyddyn yma, ges i ag Eadyth ein cam-drin i’r fath raddau ar y cyfryngau cymdeithasol, roeddwn i’n gorfod gadael twitter ac aros iddi ymdawelu. Fe wnaeth o ddysgu fi unwaith eto pa mor greulon mae pobl yn gallu bod tuag at fenywod ar-lein. Yn enwedig menywod o dras gymysg.

Rydym ni wedi gweld:

Rheol Iaith uwchlaw solidariaeth gydag artistiaid… Rheol Iaith dros ffydd yn yr iaith Gymraeg…

Rheol Iaith cyn solidariaeth gydag artistiaid du a chefndiroedd byd-eang…

A breuder diwylliannol Gwyn uwchlaw bywydau Du.

Roedd yr hiliaeth tuag atom gan genedlaetholwyr Cymreig wir yn siarad i’r eliffant yn y stafell nad oes neb wir am gydnabod: fod llawer iawn o bobl yn gweld Cymreictod fel rhywbeth Gwyn. Yn anffodus fe wnaeth hyn hefyd amlygu ei hun o ran y math o bobl oedd am ddangos cefnogaeth tuag atom ni fel artistiaid. A’r bobl hynny oedd yn meddwl ein bod ni’n bygwth yr ymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol.

Rwyf wedi bod yn gweithio gyda dramodydd Iddewig yn ddiweddar, ac rydym ni wedi bod yn siarad am ba mor beryglus gall cenedlaetholdeb fod. Mae’r Cymry wastad yn gweld eu hunain fel lleiafrif, sy’n wir wrth gwrs, ond mae’r pwyslais ar ddioddefaint fel prif nodwedd ein hunaniaeth yn gallu ein hatal rhag myfyrio ar faterion o fewn ein hunaniaeth genedlaethol.

Rydym ni’n fwy na dioddefwyr.

I fi, dydy’r Eisteddfod ddim yn fonolith fy Nghymreictod. A dydw i ddim yn ysgrifennu cerddoriaeth i’r Steddfod. Mae yna sefydliad o bobl sy’n credu taw’r Steddfod yw’r peth pwysicaf sydd gyda ni yng Nghymru. Mae sut rydw i ag eraill wedi cael ein trin ganddyn nhw wedi fy atgoffa o fod yn yr ysgol. Dim ymddiriedaeth.

Dydy rheolau ddim yn achub iaith.

Mae hyder, celf a theimlo fod rhyddid ganddo ti i fynegi dy hun sut wyt ti eisiau – dyna sydd yn gadael i iaith barhau. Dydw i ddim yn bodoli ar set Pobol Y Cwm, mae fy Nghymraeg yn mynd i gael geiriau Saesneg ynddi wastad. A dydw i ddim yn gweld hyn yn rhywbeth anghywir neu ddim yn ddigon Cymraeg… rwy’n gweld hyn fel fy ngwirionedd personol. Fy ngwirionedd rwy’n dewis ei fynegi trwy ysgrifennu caneuon gyda darnau o Saesneg ynddyn nhw.

Mae cael eich targedu fel rhywun sy’n trio “lladd yr iaith” – i gyfeirio at derm y bardd Gwyneth Lewis o “Llofrudd Iaith” os hoffech chi – wedi bod yn brofiad diddorol o ran caledu’r syniad o’r fath o Gymru rwy’n mynd i gario mlaen i frwydro drosti.

Cymru sy’n gadael i bobl fynegi eu hunaniaeth mewn unrhyw ffordd maen nhw eisiau, Cymru sy’n cynnwys ymwybyddiaeth o hanes cymunedau diaspora Cymreig fel y Cymunedau Somali, Yemeni a Charibïaidd.

Cymru ble mae dysgwyr, ffermwyr a phobl y dre yn dod at ei gilydd i rannu barddoniaeth gyda chyfieithiadau ar gael (fel sy’n digwydd yn gyson yn fy nghymuned leol ym Machynlleth).

Cymru sy’n cysylltu gyda chymunedau eraill sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol i greu celf newydd.

A Chymru sydd gyda digon o ffydd yn ei hun i beidio â bod yn ddim ond dioddefwr.

Ry’ ni yma o hyd, cofiwch.