Tydi’r lle yma ddim i ti na finna’.

Mae yna groeso i ni, wrth gwrs – mae yna groeso i bawb, a dyna ran o hud y lle. Ond tydi fa’ma ddim i ni, ddim er ein mwyn ni, nac ar ein cyfer. A diolch byth am hynny, achos mae’r byd i gyd yn perthyn i’r oedolion, a cyn lleied o lefydd i’r plant.