Doedd gen i ddim llawer o ddewis ond sgwennu am Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon gan nad oedd yna ddim llawer o ddim byd arall ar S4C na Radio Cymru. Roeddwn i serch hynny’n ymwybodol iawn fy mod i wedi gwneud hynny’r adeg yma llynedd hefyd. Felly yn ôl â fi i ddarllen beth oedd wedi mynd â fy sylw i bryd hynny.