Gyda sylw’r genedl ar Brifwyl ffynci’r Urdd draw yn Sir Gaerfyrddin, mae’n bosib eich bod wedi methu’r stori gan y BBC am blant bach yn rhoi’r gorau i fynychu ysgol Gymraeg achos bod lôn heb ei thrwsio.

Mae yn sefyllfa ryfeddol, o gofio mai nod Llywodraeth Cymru yw cynyddu’r nifer o ddisgyblion sy’n cael eu haddysg yn Gymraeg, er mwyn cael y miliwn yna o siaradwyr erbyn 2050.