Doedd Gruff ddim i fod ar TikTok. Roedd ei fam wedi awgrymu y dylai gadw’r ffôn yn y gegin tra’r oedd o’n astudio, er mwyn cael gwared ar y demtasiwn i wylio Insta Reels neu ddanfon Snapchat sydyn i’w ffrindiau.

“Dwi ddim ond yn iwsho fo i wrando ar fiwsig. Ma’n helpu fi i ganolbwyntio.”