‘O’r Llanfair sydd ar y bryn i Lanfair Mathafarn,/ Chwyth ef i’r synagog neu chwyth ef i’r dafarn’. Dyna oedd cyngor y bardd R Williams Parry yn ei gerdd fawr ‘Cymru 1937’. Galwodd arnon ni i fyw gydag argyhoeddiad, i beidio ag eistedd ar y ffens. A ninnau newydd weld miloedd yn gorymdeithio yn Abertawe yn enw ymgyrch YesCymru, mae llawer mwy o Gymry bellach wedi dangos ar ba ochr o’r ffens maen nhw am fod.
Yn Llanfair-ar-y-bryn mae bedd yr emynydd a’r bardd enwog William Williams Pantycelyn, a chapel coffa iddo. Os ydych chi’n ymweld ag Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri’r wythnos yma, fe allech chi daro draw yno am ychydig o heddwch. Ac ers dechrau’r mis, mae cerflun dur wedi cael ei ddadorchuddio i’r Pêr Ganiedydd a gafodd ei eni ar fferm Pantycelyn ger Pentre-tŷ-gwyn ar gyrion y dre. Sgrifennodd y bardd dros 900 o emynau a 90 o weithiau llenyddol pwysig. Diolch i Lanymddyfri am roi parch i ddyn sy’n rhan mor bwysig o’n diwylliant a’n cân.
Eleni mae’r Eisteddfod yn agor ar y Sul cyntaf er mwyn rhoi lle teilwng i’r sioe fawr uchelgeisiol ac aml-gyfrwng, Chwilio’r Chwedl. Mae hi a’i chast enfawr ifanc am gyflwyno 22 o straeon a chwedlau sy’n gysylltiedig â Sir Gâr ar bedwar llwyfan ar y maes.
Mae gan dre farchnad Llanymddyfri arwyddocâd dwfn i’r Cymry. Mae ganddi gysylltiad cryf ag Oes y Tywysogion – cafodd Llywelyn ap Gruffudd Fychan ei ddienyddio yn y dref. Mae cerflun dur ysblennydd ohono ar dir y castell – un o gerfluniau gorau’r wlad yn sicr, a dylai pawb ymweld ag e, pe bai ond i sbecian arno o ffenestr y car.
Ac mae’r Urdd yn rhoi cyfle i’r ardal ymfalchïo yn ei Chymreictod. Gyda’r Eisteddfod yng nghyffiniau coleg preswyl enwocaf Cymru, Coleg Llanymddyfri, braf fydd clywed y fro’n atseinio â lleisiau yn cystadlu, yn sgwrsio ac yn diddanu yn y Gymraeg. Efallai mai ‘Cân yn Ofer’ yw cân osod y corau blwyddyn 5 a 6 ond yn sicr ni fydd eu cân yn ofer. Braf hefyd yw gweld ‘yr ŵyl o fewn gŵyl’, Gŵyl Triban, yn dychwelyd ar gyfer y penwythnos olaf – roedd yr un gyntaf yn 2022 yn llwyddiant digamsyniol.
Mae Gŵyl Triban yn trawsnewid rhan o faes yr Eisteddfod ar y nos Wener a’r nos Sadwrn. Un peth da’r llynedd oedd gweld yr hen a’r ifanc yn cymysgu’n rhwydd, y mam-gus a’r plant bach, y llanciau a’u rhieni. Roedd modd symud rhwng dau lwyfan a rhwng dwy arlwy wahanol, bron fel dwy ŵyl ar wahân. Enwau mawr cenedlaethol fel Tecwyn Ifan ac Yws Gwynedd ar y naill, a sŵn newydd, cyffrous, N’famady Kouyaté, Izzy Rabey ac Adwaith ar y llall. Am unwaith, roedd modd eistedd y ddwy ochr i’r ffens.
Felly dyma aralleirio geiriau’r bardd mawr: ‘O’r Llanfair sydd ar y bryn i Lanfair Mathafarn, chwyth ef i’r Eisteddfod a chwyth ef i’r Triban’. Pob lwc i Eisteddfod yr Urdd 2023.