Wrth i rywfaint o’r llwch ddechrau setlo (rhyw ychydig) ar helyntion Plaid Cymru, mae’n bosib dechrau ystyried yr oblygiadau ehangach.

Mae’n amlwg fod y blaid wedi cael problemau penodol yn ymwneud â’i hymateb i gwynion; mae hynny wastad yn beryg lle mae rhyw ‘achos’ yn y fantol.

Dechrau’r cyfan, er hynny, ydi ymddygiad ychydig o bobol bwerus – dynion yn benna’ – tuag at rai llai pwerus na nhw – menywod yn benna’. Mae hynny’n rhan o lawer iawn o fudiadau a chyrff.