Falle mai rhywbeth am fy magwraeth Fethodistaidd sy’n fy nenu at basiantau crand. Gwisgoedd hirion, mwg a goleuadau’n twincian? Swnio’n amheus o ‘high Anglican’. Wedi plentyndod o ddysgu am bŵer geiriau, am ddawn dweud, ac am rym gofodau a gweithredoedd syml – yn anochel dwi wedi troi’n oedolyn sy’n dwlu ar ddefod gymhleth a sbloetsiau ffansi.