Nid yw aflonyddu rhywiol yn aflwydd sy’n perthyn i un blaid wleidyddol benodol.

Ydy, mae Plaid Cymru dan y lach yn dilyn cyhoeddi adroddiad sy’n sôn am achosion lle mae bwlio, cam-drin merched ac aflonyddu wedi digwydd.

Yn ôl yr adroddiad gan Nerys Evans, mae ymddygiad o’r fath yn rhan o ddiwylliant y Blaid.

Mae Adam Price wedi gorfod talu’r pris ac mae sawl un o golofnwyr Golwg yn dweud eu dweud am y sefyllfa yn y rhifyn hwn.