Ddechrau’r wythnos roedd The Times of London yn torri’r stori nad yw Tywysog Cymru eisiau cael ei arwisgo – ond mae o ffansi seremoni.

Mae Ei Bobol wedi bod yn briffio Golygydd Brenhinol y papur newydd, ac mae hithau wedi bod yn cyfleu’r farn frenhinol honno i’r byd drwy roi sbin ddifyr ar y penderfyniad – mae William Foel yn rebal a fydd o’n torri ei gwys ei hun.