Mae Plaid Cymru yn mynd drwy un o’r cyfnodau mwyaf cythryblus yn ei hanes, yn dilyn cyhoeddi adroddiad sy’n datgelu bod “gormod o achosion” o fwlio, cam-drin merched ac aflonyddu rhywiol wedi bod.

Bu’n rhaid i’r Arweinydd Adam Price ymddiswyddo yn dilyn beirniadu hallt, ac mae Llŷr Gruffydd bellach yn Arweinydd Dros Dro.