Y dad-goroni sy’n mynd â sylw’r blogwyr gwleidyddol yng Nghymru. Yn ôl Martin Shipton ar nation.cymru, roedd ymadawiad Adam Price fel Arweinydd Plaid Cymru yn anorfod…
“Roedd yr adroddiad damniol gan y cyn-Aelod Cynulliad, Nerys Evans, yn golygu nad oedd modd cynnal safle Adam Price… Mae’r her sy’n wynebu pwy bynnag a ddaw’n arweinydd newydd yn un wirioneddol Hercwleaidd. Mae enw da’r Blaid wedi ei lusgo trwy’r baw a fydd dadwenwyno’r enw ddim yn hawdd. Dim rhyfedd nad oes neb o’r AoSau i’w gweld yn awchu i gamu i esgidiau Mr Price. Mae’r hen ddywediad fod pobol mewn pleidiau gwleidyddol yn casáu ei gilydd yn fwy na’u gwrthwynebwyr wedi dod yn wir yn achos Plaid Cymru.”
I’r Cynghorydd Carrie Harper yn Wrecsam, dyma’r cyfnod anodda’ iddi ers dechrau gwleidydda tros Blaid Cymru, ond mae’r broblem go-iawn yn ddyfnach fyth…
“Mae wedi bod yn agoriad llygad a dweud y lleia’. Hen arlliw o eironi, dw i hyd yn oed wedi gweld rhai’n pwyntio bys at gyn-Arweinydd y Blaid, Leanne Wood, am drafferthion presennol y Blaid. Dwi’n cofio, wrth iddi herio casineb at fenywod, ei bod wedi cael ei chyhuddo o ganolbwyntio gormod ar bynciau cyfyng. Dyw casineb at fenywod ddim yn ymddangos mor gyfyng bellach ydi o? Mae’n arwydd o faint o waith sydd i’w wneud.” (nation.cymru)
I Huw Prys Jones, mae yna broblem ddyfnach i Blaid Cymru hefyd wrth weld cwymp y Mab Darogan…
“… adlewyrchiad o naïfrwydd llawer o aelodau Plaid Cymru, yn hytrach nag unrhyw fai ar Adam Price ei hun, oedd eu parodrwydd i lyncu chwedl y Mab Darogan yn rhy lythrennol. I lawer o genedlaetholwyr Cymreig, mae’r ddadl dros annibyniaeth i Gymru mor rymus a chyfiawn fel eu bod yn credu mai’r cwbl sydd ei angen ydi arweinydd sydd â’r huotledd a’r carisma i allu cyfleu’r neges yn effeithiol. Dydyn nhw ddim fel pe baen nhw’n sylweddoli nad ydi trwch pobol Cymru ddim wedi eu codi yn yr un diwylliant â nhw nac yn rhannu’r un gwerthoedd… Mae’r rhan fwyaf o wleidyddion Plaid Cymru’n sylweddoli hyn – ond efallai fod angen iddyn nhw wneud mwy weithiau i gadw traed eu haelodau ar y ddaear.” (golwg.360.cymru)
Ac i Y Crafwr, roedd helyntion Plaid Cymru’n achosi problemau i gyflwynwyr newyddion Lloegr…
“… arweiniodd… at yr her o enwi’r arweinydd tros dro Llŷr Gruffydd, o ynganu’r Gymraeg yn iawn a sôn am y Senedd – weithiau mewn un frawddeg! Aeth cyflwynwyr profiadol a llyfn yn ddarnau yn wyneb y fath dasg anferthol â mynd i’r drafferth i ddysgu sut i ddweud pethau yn iaith hynaf Prydain.” (nation.cymru)
Ond, er mwyn cyd-destun, dyma ddathlu pen-blwydd. Mae hi’n 70 mlynedd i’r mis ers i wyddonydd o’r enw Gilbert Plass greu cysylltiad hollol glir rhwng carbon deuocsid y ddynolryw a newid hinsawdd…
“Erbyn y bydd rhybudd Plass yn 100 oed, bydd lefelau [carbon deuocsid] yn yr amgylchedd yn llawer uwch. Mae yna siawns go-lew y byddwn wedi mynd tros y trothwy o gynhesu mwy na dwy radd Celsius – y trothwy ‘diogel’ yn ôl yr hen farn.” (Marc Hudson ar theconversation.com)