Y Beibl i’r seico-ddaearyddwyr yw’r llyfr a’r ffilm o’r un enw, London Orbital gan Iain Sinclair (2002). Yma mae’r awdur, sy’n enedigol o Gaerdydd, yn cofnodi gwahanol deithiau cerdded ganddo o amgylch yr M25. Wrth ymddiddori yn y syniad o grwydro seico-ddaearyddol, dilyn fy nhrwyn ac arsylwi dros y blynyddoedd, rwyf o hyd wedi teimlo fod y ‘Ddinas’ rhywsut yn ganolog yn hyn oll i’r puryddion.