Roeddwn i’n hogyn drwg pan yr oeddwn i’n ifanc. Ar ôl buddugoliaeth Dinas Caerdydd un noson, roeddwn i’n dathlu yng Nghlwb Ifor Bach a phenderfynes i ychwanegu ychydig o graffiti i wal y toiledau. Roeddwn i’n dysgu Cymraeg ar y pryd, ac oherwydd y lleoliad wnes i gymryd pen ac ysgrifennu ‘ADAR GLAS’ uwch ben y wrinalau. Mi wnes i ddychryn wrth weld Ceri, rheolwr y clwb yn sefyll tu ôl i fi efo golwg dywyll ar ei wyneb. Roeddwn i’n disgwyl cael cic allan, ond na, roedd Ceri yn flin am rywbeth ara