Wel, druan â ni’r Cymry.
Mae Adam Price, ein Mab Darogan, wedi ein gadael. Proffwyd-ffug ydoedd, wedi’r cyfan. Gallwn ychwanegu ei enw at y rhestr hir o has-beens hanes Cymru.
Pwy, felly, all ein harwain at y sunlit-uplands sy’n ein disgwyl fel cenedl? I’n rhyddhau o’r cadwyni sy’n ein clymu at y gelyn dros y clawdd?
Rhun ap Iorwerth, o bosibl.
Mae blaenoriaid y Blaid wedi datgan mai da fyddai osgoi cystadleuaeth am swydd yr arweinydd. Byddai’r dadlau cyhoeddus yn siŵr o ddangos mwy o olch budur y Blaid i’r cyhoedd. Ych a fi.
Llongyfarchiadau gwresog i Rhun, felly. A phob lwc iddo.
A dweud y gwir, fe fydd angen cryn dipyn o lwc arno.
Wedi’r cyfan, beth fydd pwynt Plaid Cymru o hyn ymlaen?
Annibyniaeth yw prif bolisi’r blaid, wrth gwrs. A dyna yw’r prif Unique Selling Point rhyngddo â Llafur Cymru.
Ond man a man i Rhun gynnig mynd â holl drigolion Cymru, mewn roced, i fyw ar y blaned Mawrth. Oherwydd mae cymaint o siawns i ni ddod yn wlad annibynnol ag sydd gennym o fyw ar y blaned goch.
Wedi’r cyfan, os yw brawd mawr Plaid Cymru (yr SNP) wedi methu creu gwlad annibynnol, yna pa obaith sydd i’n plaid fach ni? Collodd yr SNP refferendwm 2014 – a chollodd yr achos diweddar yn y Goruchaf Lys yng nghyswllt cynnal ail refferendwm.
Wrth i’r awdurdodau fynd drwy gyfrifon yr SNP â chrib fân, mae’n debyg y bydd cwch y blaid honno’n araf suddo. Mae disgwyl i Keir Starmer gipio ugain o seddi’r SNP adeg yr etholiad cyffredinol nesaf. Fe ddaw i ben prif effaith yr SNP dros y deng mlynedd diwethaf, sef cadw’r Ceidwadwyr yn Downing Street wrth iddyn nhw gipio seddi’r Blaid Lafur yn yr Alban. Mae’n rhyfedd o fyd.
Wrth iddynt weld yr holl shenanigans yng Nghaeredin, gallaf ddychmygu aelodau Plaid Cymru’n prysur bori trwy eu cyfrifon Twitter, er mwyn dileu’r holl luniau ohonynt yn gwenu fel plant bach cyffrous yng nghwmni Nicola Sturgeon. Neu, o bosib, yn sefyll wrth ei hochr yn edmygu camper-van newydd yr SNP.
Rhun am etifeddu ceffyl sy’n drewi
Fe fydd Rhun, felly, yn etifeddu dead-horse enfawr fel prif bolisi ei Blaid. Ac fe fydd y ceffyl hwnnw’n drewi mwy a mwy rhwng nawr ac etholiad y Senedd yn 2026.
Wedi’r cyfan, fel eglurodd Jeremy Miles yn ei gyfweliad diweddar yn y cylchgrawn hwn:
“Mae Comisiwn Annibyniaeth Plaid Cymru wedi cydnabod yr heriau economaidd sylweddol iawn fyddai’n wynebu Cymru annibynnol. Ond, dyw’r drafodaeth fanwl am yr heriau hynny byth yn digwydd o fewn Plaid Cymru. A hyd yn oed pe byddai hynny’n digwydd, fe fydda’r risgiau i’n heconomi yn rhwystr o ran cefnogi annibyniaeth.”
Wel, mae’r cloc yn tician Rhun. Beth am gychwyn y drafodaeth fanwl?
Oherwydd, os nad ein harwain i annibyniaeth fyddai’r nod, yna beth fyddai rôl a phwrpas Plaid Cymru? Mae’n un o nifer o bleidiau adain chwith (ynghyd â Llafur Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd). Mae angen iddi ddisgleirio, felly, ar y llwyfan prysur hwnnw os yw am ddenu etholwyr o’r tu hwnt i’w hardaloedd Cymraeg traddodiadol.
Ac rwy’n gofyn eto, heblaw am eu cariad at yr iaith a’r syniad o annibyniaeth, faint o’r dosbarth canol cyfforddus sy’n pleidleisio dros Blaid Cymru sy’n sylweddoli pa mor bell i’r chwith mae’r Blaid yn eistedd?
Ni allaf weld y Blaid yn tyfu yn y dyfodol agos. Fe fydd adroddiad Nerys Evans yn ddrag arnynt, er bod Adam wedi mynd. Ac mae Alun Ffred eisoes wedi cynnig bod angen i fwy o brif arweinwyr y blaid ei gadael.
Ond, gan nad ydynt wedi bod yn arwain llywodraeth, mae’n annhebyg y byddant yn wynebu’r un ffawd â’r SNP – gyda’i record siomedig o ran Addysg, Iechyd a mwy. Bydd y ffyddloniaid yn aros ar y cwch.
Prif rôl y Blaid, rwy’n ofni – heddiw ac am byth – fydd gweithredu fel ffatri syniadau, tra’n edrych am gyfleoedd i’w gwireddu, drwy gytuno bargen gyda Llafur Cymru pan fydd y blaid honno angen eu cefnogaeth ar lawr y Senedd.
Dyna’r gorau y gellir ei ddisgwyl ganddynt. Ond mae hynny’n well na dim, onid yw?
Mae yna beryg mai edwino fydd Plaid Cymru yn y dyfodol, wrth i frand Llafur gryfhau ar draws Prydain, gyda’r Corbyniaid wedi eu difa, o’r diwedd.
Ac os daw Jeremy Miles i arwain Llafur Cymru, fe fydd ei wleidyddiaeth ‘gwladgarol, Cymreig a Chymraeg, cymunedol a radicalaidd’ yn ergyd arall i’r Blaid.