Mae o’n mynd â’i ffolder a’i gardiau fflach allan at y bwrdd bach yn yr ardd gefn ar ddiwrnod brafia’r flwyddyn. Yn sipian dŵr o fotel bob hyn a hyn, neu’n ymestyn beiro i gywiro ei nodiadau ei hun. ‘Ngwas i. Mae o wedi gadael ei ffôn yn ei lofft, yn gwybod mai’r teclyn yna ydi gelyn pennaf astudio. Dwn i ddim os mai diffyg cyffyrddiad cyfarwydd yr iphone neu bryder hollbresennol yr arholiadau sy’n gwneud iddo symud mor gyson, mor anesmwyth.