Mae Alice Chambers wedi cael cryn sylw yn y wasg a’r cyfryngau dros yr wythnos ddiwethaf.

Efallai nad yw ei henw’n gyfarwydd iawn i bawb ohonon ni.

Ond fe ddylai fod.

A dylai’r hyn ddigwyddodd iddi ar ddiwrnod Carnifal y Coroni godi ofn arnon ni i gyd.

Yn un o ffans mawr y teulu brenhinol, roedd Alice Chambers – pensaer 36 oed, o Awstralia yn wreiddiol – ar y Mall yn Llundain yn edrych ymlaen at weld y roials yn gweiddi eu golud o’u coetsis aur ar eu ffordd i Abaty Westminster.