Dw i’n mynd yn ôl ychydig wythnosau y tro hwn. Wnes i ddim cweit dal y rhaglen yma yn llawn pan ddarlledwyd hi’n wreiddiol ond fe es i yn ôl i’w gwylio hi eto, a dw i’n argymell eich bod chi i gyd yn gwneud yr un peth os nad ydych chi wedi ei gweld hi’n barod.