Dwi’n siŵr y bu pob un ohonoch wedi’ch glynu o flaen y teledu ddydd Sadwrn, yn mwynhau paned o de ac yn chwifio baner yr Undeb gan ganu ‘God Save the King’. Dyna, wrth gwrs, yr hyn y bues i’n ei wneud, gan fanteisio ar y cyfle ben fy hun i dyngu (neu ai rhegi ddylai hynny fod?) llw o deyrngarwch i’n brenin newydd.