Wel, am siom.

Roeddwn i wir wedi edrych ymlaen at eistedd o flaen y teledu ddydd Sadwrn, a bloeddio fy nheyrngarwch i’r Brenin Charles III yn ystod ei Goroni.

Fyth ers i’r Palas gyhoeddi eu bod yn cyflwyno elfen newydd ac arloesol i ddefod y Coroni, lle byddai Archesgob Caergaint yn galw arnon ni’r werin i dyngu llw o ffyddlondeb i’n teyrn newydd, roeddwn i wedi bod yn edrych ymlaen yn eiddgar at ymuno yn y don o gariad ac ufudd-dod fyddai’n lledu drwy’r deyrnas.