Un o’r cwynion rydw i wedi darllen sawl gwaith am ddyrchafiad Wrecsam yw nad ydy hi yn deg bod tîm arall o Gymru yn cymryd lle clwb Saesneg ym mhrif gynghreiriau Lloegr. Mae’n werth atgoffa ein hunain felly, am hanes Prif Gynghreiriau Pêl-droed Lloegr a’r rhesymau hanesyddol pam bod yna rai clybiau Cymreig yn chwarae dros y ffin.