Ar Sadwrn y Coroni roedd Bryn Terfel yn perfformio yn y seremoni yn Abaty Westminster, gan ganu ‘Kyrie Eleison’ sef y gân Gymraeg gyntaf erioed i’w chlywed yn y fath achlysur.

Ac ar y nos Sul yng Nghastell Windsor yn Berkshire, roedd y baritôn o Bantglas yn perfformio yng nghyngerdd coroni’r trydydd Brenin Charles.

Fe ganodd Syr Bryn ‘You’ll never walk alone’ gydag Andrea Bocelli, un arall o enwau mawr y byd operatig.