Y term meddygol am amnesia dros dro yw ‘Temporary Global Amnesia’. Rwyf yn gwybod hyn achos dyma yn union ddigwyddodd i mi yn ôl ym mis Mehefin 2020. Collais unrhyw gof tymor byr am dair awr un prynhawn tra yn garddio. Tydi’r tair awr yna erioed wedi dod yn ôl.