Dwi’n trio peidio â malio rhyw lawer pan fydd selebriti’n ein gadael ni – mae rhywbeth am y galar un-ochrog yn rhyfedd i mi. Sgil-effaith, efallai, taith ysgol yn y 1990au – a gyrhaeddodd yn yr Almaen yr union fore y cadarnhawyd bod y Dywysoges Diana wedi marw. Atgof sylfaenol i mi yw gwylio ton ar ôl ton o grio a mopio Prydeinig, trwy lens bell teledu cyfandirol, a gweld yr angladd enfawr ar miwt, trwy ffenest siop bureau de change. Atgof o oes symlach yn sicr – ac o edrych yn ôl, cyfn