Mae gwaith “perthnasol” yr artist enwog i’w weld eto mewn oriel yn y gogledd…

Dylai unrhyw gasglwr celf Cymreig sydd o ddifri fod â gwaith yr artist Peter Prendergast yn ei feddiant. Dyna farn perchennog un o brif orielau celf gyfoes Cymru, Oriel Ffin-y-Parc ger Llanrwst, lle mae sioe o waith yr artist dylanwadol newydd agor.