Portread o’r Esgob Mary Stallard
Esgob newydd Llandaf oedd un o’r menywod cyntaf i ddod yn offeiriaid yng Nghymru.
Un o Birmingham ydy’r Esgob Mary Stallard yn wreiddiol, ond mae hi’n byw yma ers y 1990au, pan aeth ati ar ei hunion i ddysgu Cymraeg.
Ers cael ei hordeinio fel offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru yn 1997, mae Mary wedi gweithio yng Nghasnewydd, yn esgobaethau Tyddewi a Llanelwy, ac yn fwy diweddar yn Archddiacon Bangor.