Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Ar hyn o bryd rwy’n darllen Capten gan Meinir Pierce Jones, gan gyrraedd rhan tri – ar ôl y trobwynt go sylweddol. Fel un sy’n gyfarwydd â Morfa Nefyn, gan fod fy nhair chwaer-yng-nghyfraith yn byw yn y cyffiniau, rwy’n mwynhau troedio’r llwybrau bach a’r lan môr o dros ganrif yn ôl [sy’n cael eu disgrifio yn y llyfr]. Mae’n dod â’r byd yna’n fyw iawn.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd