Rhwng hyfforddi i fod yn feddyg, dysgu plant am beryglon troseddau cyllyll a chodi ymwybyddiaeth am Alopecia, mae Miss Cymru yn bwriadu defnyddio’i phlatfform er gwell…

Ar ôl cipio’r teitl Miss Cymru yn ddiweddar, bydd Millie-Mae Adams o Gaerdydd yn mynd yn ei blaen i gynrychioli’r wlad yng nghystadleuaeth Miss World y flwyddyn nesaf.

Ond mae yn bwriadu gwneud cymaint mwy na hynny.