Dim ond y llynedd y dechreuodd Joshua Morgan ddysgu siarad Cymraeg, ac mae eisoes wedi cyhoeddi’r llyfr handi ‘Thirty One Ways to Hoffi Coffi’…

Wrth ymdrechu i ddysgu siarad Cymraeg, dechreuodd arlunydd o Gaerdydd wneud lluniau cofiadwy i gyd-fynd ag ambell frawddeg neu ddywediad.

Doedd Joshua Morgan ddim yn bwriadu rhannu ei ddarluniau â neb tu hwnt i’w deulu a’i ffrindiau, ond mae ei waith bellach yn helpu dysgwyr o bob cwr o’r wlad.