Actorion, nid gwleidyddion, ydy’r bobol ddylanwadol yng Nghymru Fach y dyddiau hyn.

Yr wythnos diwethaf roedd Michael Sheen yn tanio clamp o ffiwsan wrth gyhoeddi’r busnes Bannau Brycheiniog yna.

Pwy feddylia y byddai Sky News, The Daily Telegraph a John Hymphreys yn cael ffit binc o weld bod un o gyrff cyhoeddus ein gwlad am alw ei hun yn ‘Bannau Brycheiniog National Park’?