Ro’n i wedi meddwl mai am Dominic Raab, cyn-Ddirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, y byddwn i’n ysgrifennu y tro hwn.

Mae adroddiad annibynnol, trwyadl a drudfawr wedi canfod ei fod yn fwli.

A mynd i holi oeddwn i a ddylai hynny roi’r farwol i’w yrfa fel Aelod Seneddol yn ogystal â’i safle yng Nghabinet y llywodraeth Dorïaidd. Does yna ddim lle i fwlis o’r fath, does bosib, mewn plaid lywodraethol yr addawodd ei harweinydd fyddai’n llawn urddas ac uniondeb mewn grym?