Roedd yna adeg ar y prynhawn dydd Sadwrn diwethaf pan yr oeddwn i’n meddwl efallai bod cefnogwyr Wrecsam yn euog o ddathlu yn rhy gynnar. Roedd yna ychydig o oriau i fynd tan y gic gyntaf ac roedd y cyfryngau cymdeithasol yn llawn o luniau o bobl yn gwenu o flaen y camerâu ar eu ffordd i’r Cae Ras. Ac wedyn pan sgoriodd Boreham Wood gôl gyntaf y gêm roedd hi’n hollol bosib na fyddai’r un bobl yn gwenu ar y chwiban olaf.