I’r gwleidyddion sy’n camddefnyddio’u safle breintiedig, a’r ffydd rydyn ni’n ei rhoi ynddyn nhw, i’w hymgyfoethogi eu hunain a’u ffrindiau…

I’r seneddwyr sy’n bwydo calonnau pwdr rhai o’u hetholwyr er mwyn prynu pleidleisiau a sicrhau grym iddyn nhw eu hunain…

I’r penaethiaid corfforaethol sy’n pesgi’n dew ar fraster bro ar draul eu gweithwyr a’u cwsmeriaid…