Fel pawb, dw i’n siŵr, fydda i’n edrych yn ôl weithiau ac yn gwingo ar ambell atgof. Wrth gwrs mae cyfran go dda o’r atgofion hynny’n rhai chwil, p’un ai’n dweud yn Gymraeg ar ddechrau coleg fod gan y boi drws nesaf i mi yn y bar glustiau eithriadol o fudr, ond i’w gael yn dweud ‘diolch’ wrth y barman wrth adael a bwrw golwg filain ataf, neu’n canu’r ddeuawd ‘Islands in the Stream’ ar y carioci ar ben fy hun. Ond mae ambell un sobor.