Humza Useless‘ yw’r enw a roddir gan Blaid Lafur yr Alban ar arweinydd newydd yr SNP, Humza Yousaf.

Ac roedd gwylio Humza’n methu arwyddo ei lw yn Llys y Sesiwn, gan nad oedd ei ysgrifbin yn gweithio, fel petai’n arwydd o’r hyn sydd i ddod.

Mae’r Blaid Lafur wrth eu bodd gyda phenderfyniad yr SNP i ddewis Humza – ac yn gobeithio adennill deunaw sedd adeg yr etholiad cyffredinol nesaf, diolch iddo.